Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), mae'r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am wneud argymhellion ar weithdrefnau ac arferion cyffredinol y Senedd, gan gynnwys unrhyw gynigion ar gyfer ail-wneud y Rheolau Sefydlog neu eu diwygio.

Mae'r adroddiad hwn yn argymell diwygio Rheolau Sefydlog 21, 26, 26A, 26B, 27 a 30C i adlewyrchu ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd.

Gwahoddir y Senedd i gymeradwyo'r cynigion i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog fel yn Atodiad A. Mae'r Rheolau Sefydlog diwygiedig, os cânt eu cymeradwyo, yn Atodiad B.


 

Cynnwys

1.         Ystyriaeth y Pwyllgor Busnes. 3

Rheolau Sefydlog 21.8–21.11: sybsidiaredd.. 3

Rheolau Sefydlog Eraill 3

2.        Penderfyniad.. 4

Atodiad A – Newidiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog 21, 26, 26A, 26B, 27 a 30C, a nodiadau esboniadol 5

Atodiad B – Rheolau Sefydlog 21, 26, 26A, 26B, 27 a 30C, fel y'u diwygiwyd   19

 

 


 

1.            Ystyriaeth y Pwyllgor Busnes

1.              Yn ei gyfarfod ar 18 Ionawr 2021, ystyriodd y Pwyllgor Busnes ddiwygiadau i'r Rheolau Sefydlog i adlewyrchu ymadawiad y Deyrnas Unedig (DU) â'r Undeb Ewropeaidd (UE), ar ôl i’r cyfnod pontio ddod i ben.

Rheolau Sefydlog 21.8–21.11: sybsidiaredd

2.            Ar hyn o bryd, mae Rheolau Sefydlog 21.8–21.11 yn nodi bod gan "bwyllgor cyfrifol", sef y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar hyn o bryd, swyddogaeth i fonitro sybsidiaredd mewn perthynas â deddfwriaeth yr UE ac i gyflwyno adroddiadau os na fydd deddfwriaeth yn cydymffurfio ag egwyddor sybsidiaredd. Daeth y sail gyfreithiol ar gyfer hyn i ben pan ymadawodd y DU â’r UE.

3.            Yn unol â’i swyddogaeth fonitro, ystyriodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ddeddfwriaeth ddrafft yr UE yn ymwneud â materion o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd neu swyddogaethau Gweinidogion Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol, er mwyn ystyried a oedd yn cydymffurfio â’r egwyddor sybsidiaredd. Pe bai’r pwyllgor o’r farn nad oedd deddfwriaeth yn cydymffurfio â’r egwyddor sybsidiaredd, câi wneud sylwadau ysgrifenedig i bwyllgor perthnasol Tŷ’r Cyffredin neu Dŷ’r Arglwyddi, a hynny er mwyn cynnwys y sylwadau hynny mewn barn resymedig i’w chyflwyno gan y pwyllgor i awdurdodau perthnasol yr UE.

4.            Mae sybsidiaredd wedi'i wreiddio yn y Cytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd a beidiodd â bod yn gymwys yn y DU ar y diwrnod ymadael. Fe wnaeth Erthygl 128 o'r Cytundeb Ymadael ddileu statws Senedd y DU fel senedd genedlaethol at ddibenion y Cytuniadau. Yn unol â hynny, nid yw swyddogaeth monitro sybsidiaredd y Senedd yn arferadwy mwyach.

5.            Mae'r Pwyllgor Busnes yn cynnig dileu Rheolau Sefydlog 21.8–21.11 er mwyn dileu swyddogaethau monitro sybsidiaredd y pwyllgor cyfrifol mewn perthynas â deddfwriaeth yr UE. Mae’r newidiadau hyn wedi’u nodi yn Atodiad A.

Rheolau Sefydlog Eraill

6.            Mae rhai Rheolau Sefydlog yn ymwneud ag aelodaeth y DU o'r UE ac eithrio mewn perthynas â swyddogaeth monitro sybsidiaredd y pwyllgor cyfrifol. Maent yn cyfeirio'n bennaf at roi deddfwriaeth yr UE ar waith, Deddf yr UE (Ymadael) 2018 neu atgyfeiriadau i Lys Cyfiawnder Ewrop. Mae'r Pwyllgor Busnes yn argymell y dylid dileu cyfeiriadau o'r fath o'r Rheolau Sefydlog.

7.             Mae paragraff 9 o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 2020 hefyd yn nodi proses newydd yn y Senedd ar gyfer sifftio rheoliadau a wneir o dan adran 31 o'r Ddeddf honno. Cynigir Rheolau Sefydlog 27.1AA a 27.9A newydd i adlewyrchu'r broses honno.

8.            Yn olaf, mae'r Pwyllgor Busnes yn nodi bod rhai Rheolau Sefydlog yn ymwneud â'r broses o ddiwygio deddfwriaeth ddomestig i gyfrif am ymadael â'r UE. Bydd angen i'r rhain barhau mewn grym am beth amser eto, a bydd angen cyflwyno newidiadau pellach ar yr adeg briodol i ddileu neu ddiwygio'r darpariaethau hyn.

2.         Penderfyniad

9.            Cytunodd y Pwyllgor Busnes yn ffurfiol ar y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog ar 2 Mawrth 2021. Gwahoddir y Senedd i gymeradwyo'r Rheolau Sefydlog newydd arfaethedig yn Atodiad B.

 


Atodiad A – Newidiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog 21, 26, 26A, 26B, 27 a 30C, a nodiadau esboniadol

Rheol Sefydlog 21 – Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Y Pwyllgor neu Bwyllgorau

Cadw'r pennawd

21.1

Wrth gynnig cylchoedd gorchwyl pwyllgorau o dan Reol Sefydlog 16.2 neu 16.3, rhaid i’r Pwyllgor Busnes sicrhau bod y cyfrifoldeb dros y swyddogaethau a ragnodir yn Rheol Sefydlog 21 yn cael ei aseinio i bwyllgor neu bwyllgorau (y cyfeirir ato neu atynt yn Rheol Sefydlog 21 fel “pwyllgor cyfrifol”).

Cadw'r Rheol Sefydlog

Mae’r Rheol Sefydlog hon wedi ei chynnwys er gwybodaeth.

 

Swyddogaethau

Cadw'r pennawd

21.2

Rhaid i bwyllgor cyfrifol ystyried pob offeryn statudol neu offeryn statudol drafft y mae unrhyw ddeddfiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei osod gerbron y Senedd a chyflwyno adroddiad ar a ddylai’r Senedd roi sylw arbennig i'r offeryn neu’r drafft ar unrhyw un o'r seiliau canlynol:

(i)         ei bod yn ymddangos bod amheuaeth a yw intra vires;

(ii)        ei bod yn ymddangos ei fod yn gwneud defnydd anarferol neu annisgwyl ar y pwerau a roddwyd gan y deddfiad y mae wedi’i wneud neu y mae i'w wneud odano;

(iii)       bod y deddfiad sy'n rhoi'r pŵer i’w wneud yn cynnwys darpariaethau penodol sy'n ei eithrio rhag cael ei herio yn y llysoedd;

(iv)       ei bod yn ymddangos bod iddo effaith ôl-weithredol lle nad yw'r deddfiad sy’n ei awdurdodi yn rhoi awdurdod pendant ar gyfer hyn;

(v)        bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol; 

(vi)       ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol; 

(vii)      ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft;

(viii)     bod yr offeryn neu’r drafft yn defnyddio iaith ryw-benodol;

(ix)       nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg;

(x)        ei bod yn ymddangos bod oedi na ellir ei gyfiawnhau wedi bod wrth ei gyhoeddi neu wrth ei osod gerbron y Senedd; neu

(xi)       ei bod yn ymddangos bod oedi na ellir ei gyfiawnhau wedi bod wrth anfon hysbysiad o dan adran 4(1) o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946, (fel y’i haddaswyd).

Cadw'r Rheol Sefydlog

Mae’r Rheol Sefydlog hon wedi ei chynnwys er gwybodaeth.

21.3

Caiff pwyllgor cyfrifol ystyried a chyflwyno adroddiad ar a ddylai’r Senedd roi sylw arbennig i unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft y mae unrhyw ddeddfiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei osod gerbron y Senedd ar unrhyw un o’r seiliau canlynol: 

(i)         ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu i unrhyw awdurdod lleol neu gyhoeddus yn gydnabyddiaeth am unrhyw drwydded neu gydsyniad neu am unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath;

(ii)        ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd;

(iii)       ei fod yn amhriodol oherwydd newid yn yr amgylchiadau ers i’r deddfiad y mae wedi’i wneud neu y mae i’w wneud odano gael ei basio neu ei wneud ei hun; neu

(iv)       ei fod yn rhoi deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar waith yn amhriodol; neu

(v)        nad yw’n gwireddu ei amcanion polisi yn berffaith.

Diwygio'r Rheol Sefydlog

Nid oes angen y ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 21.3(iv) yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE.

21.3A

Nid yw Rheolau Sefydlog 21.2 na 21.3 yn gymwys i unrhyw offeryn statudol drafft a osodir gerbron y Senedd y mae paragraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 neu baragraff 9 o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 2020 yn gymwys iddo.

Diwygio'r Rheol Sefydlog

Mae paragraff 9 o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 2020 yn nodi proses newydd ar gyfer sifftio rheoliadau a wneir o dan adran 31 o'r Ddeddf honno. Felly, mae'r diwygiad arfaethedig yn ymestyn y broses sifftio a nodir yn y Rheolau Sefydlog i gynnwys y rheoliadau hynny.

21.3B

Rhaid i bwyllgor cyfrifol gyflwyno adroddiad ar y weithdrefn briodol i'w chymhwyso i unrhyw offeryn statudol drafft a osodir gerbron y Senedd y mae paragraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 neu baragraff 9 o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 2020 yn gymwys iddo.

Diwygio'r Rheol Sefydlog

Mae paragraff 9 o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 2020 yn nodi proses newydd ar gyfer sifftio rheoliadau a wneir o dan adran 31 o'r Ddeddf honno. Felly, mae'r diwygiad arfaethedig yn ymestyn y broses sifftio a nodir yn y Rheolau Sefydlog i gynnwys y rheoliadau hynny.

21.3C

Rhaid i'r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 21.3B gyflwyno adroddiad ar y weithdrefn briodol gan ddefnyddio'r meini prawf a ganlyn:

(i)         a yw'r memorandwm yn ddigon clir a thryloyw ynghylch pam y mae'r llywodraeth o'r farn y dylai'r weithdrefn penderfyniad negyddol fod yn gymwys;

(ii)        a yw'r memorandwm yn ddigon clir a thryloyw ynghylch y newidiadau sy'n cael eu gwneud gan y rheoliadau;

(iii)       a fu ymgynghoriad digonol ar y rheoliadau;

(iv)       a yw'r memorandwm yn ddigon clir a thryloyw ynghylch effaith bosibl y rheoliadau ar gydraddoldeb a hawliau dynol;

(v)        a yw'r rheoliadau'n codi materion o bwys cyhoeddus, gwleidyddol neu gyfreithiol; a

(vi)       unrhyw fater arall sy’n briodol ym marn y pwyllgor.

Cadw'r Rheol Sefydlog

Mae’r Rheol Sefydlog hon wedi ei chynnwys er gwybodaeth.

21.8

Caiff pwyllgor cyfrifol ystyried deddfwriaeth ddrafft yr Undeb Ewropeaidd sy’n ymwneud â materion o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd neu â swyddogaethau Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol er mwyn ystyried a yw’n cydymffurfio ag egwyddor sybsidiaredd.

Dileu'r Rheol Sefydlog

Nid oes angen y Rheol Sefydlog hon yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE.

21.9

Os bydd pwyllgor cyfrifol yn credu nad yw deddfwriaeth ddrafft yr Undeb Ewropeaidd yn cydymffurfio ag egwyddor sybsidiaredd, caiff wneud sylwadau ysgrifenedig, ar ran y Senedd, i bwyllgor perthnasol Tŷ’r Cyffredin neu Dŷ’r Arglwyddi, a hynny er mwyn cynnwys y sylwadau hynny mewn resymedig i’w chyflwyno gan y pwyllgor hwnnw i awdurdodau perthnasol yr Undeb Ewropeaidd.

Dileu'r Rheol Sefydlog

Nid oes angen y Rheol Sefydlog hon yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE.

21.10

Os bydd pwyllgor cyfrifol yn gwneud sylwadau ysgrifenedig yn unol â Rheol Sefydlog 21.9, rhaid iddo osod copi o’r sylwadau ysgrifenedig hynny gerbron y Senedd.

Dileu'r Rheol Sefydlog

Nid oes angen y Rheol Sefydlog hon yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE.

21.11

Caiff pwyllgor cyfrifol, at ddiben galluogi arfer ei swyddogaethau o dan Reol Sefydlog 21.9 yn ystod unrhyw wythnos pan na fydd y Senedd yn cwrdd, ddirprwyo’r swyddogaethau hynny i gadeirydd y pwyllgor cyfrifol, a rhaid i’r cadeirydd hwnnw, os caiff y swyddogaethau hynny eu harfer, hysbysu’r pwyllgor cyfrifol am y ffaith honno cyn gynted â phosibl.

Dileu'r Rheol Sefydlog

Nid oes angen y Rheol Sefydlog hon yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE.

Rheol Sefydlog 26 – Deddfau’r Senedd

 

Ailystyried Biliau a Basiwyd

Cadw'r pennawd

26.52

Yn unol ag adran 113 o’r Ddeddf, ar ôl i'r Bil gael ei basio, caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai'r Senedd ailystyried y Bil, neu unrhyw ddarpariaeth ynddo:

(i)         os oes cwestiwn wedi'i gyfeirio at y Goruchaf Lys o dan adran 112 o'r Ddeddf; a

(ii)        os oes cyfeiriad i gael dyfarniad rhagarweiniol gan Lys Ewrop (o fewn ystyr adran 113(1)(b) o'r Ddeddf) wedi'i wneud gan y Goruchaf Lys mewn cysylltiad â'r cyfeiriad hwnnw; a

(iii)       os nad yw'r naill gyfeiriad na'r llall wedi'i benderfynu neu wedi'i waredu fel arall.

 

Dileu'r Rheol Sefydlog

Nid oes angen y Rheol Sefydlog hon yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE a diddymu adran 113 o'r Ddeddf.

26.52A

Os derbynnir cynnig o dan Reol Sefydlog 26.52 gan y Senedd, rhaid i'r Clerc hysbysu'r Cwnsler Cyffredinol a'r Twrnai Cyffredinol am y ffaith honno.

 

Dileu'r Rheol Sefydlog

Nid oes angen y Rheol Sefydlog hon yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE a diddymu adran 113 o'r Ddeddf.

26.52B

Os bydd y Senedd yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26.52, bydd y Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl tynnu'r cyfeiriad a wnaed mewn perthynas â'r Bil o dan adran 112 yn ôl yn dilyn cais am dynnu'r cyfeiriad yn ôl o dan adran 113(2)b o'r Ddeddf.

Dileu'r Rheol Sefydlog

Nid oes angen y Rheol Sefydlog hon yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE a diddymu adran 113 o'r Ddeddf.

26.53

Caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai'r Senedd ailystyried y Bill

(i)         os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynglŷn â chyfeiriad a wnaed mewn perthynas â’r Bil o dan adran 112 o’r Ddeddf na fyddai'r Bil neu unrhyw ddarpariaeth ynddo o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd; 

(ii)        os gwneir gorchymyn mewn perthynas â'r Bil o dan adran 114 o'r Ddeddf; neu

(iii)       os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynglŷn â chyfeiriad a wnaed o dan adran 111B(2)b o'r Ddeddf mewn perthynas â Bil a basiwyd gan y Senedd, fod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.

Cadw'r Rheol Sefydlog

Mae’r Rheol Sefydlog hon wedi ei chynnwys er gwybodaeth.

26.53A

Os bydd y Senedd yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26.53, mae'r Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i'r cynnig hwnnw gael ei dderbyn gan y Senedd.

Cadw'r Rheol Sefydlog

Mae’r Rheol Sefydlog hon wedi ei chynnwys er gwybodaeth.

26.54

Mae Rheolau Sefydlog 26.30 i 26.34 a 26.36 i 26.44 yn gymwys i drafodion y Cyfnod Ailystyried.  Dylid dehongli cyfeiriadau at “Cyfnod 3” a “Cyfnod 3 pellach” yn gyfeiriadau at “y Cyfnod Ailystyried” a “y Cyfnod Ailystyried pellach” yn unol â hynny.

Cadw'r Rheol Sefydlog

Mae’r Rheol Sefydlog hon wedi ei chynnwys er gwybodaeth.

26.55

Ni chaniateir gwneud gwelliannau i Fil yn y Cyfnod Ailystyried oni bai bod y gwelliannau, yn ychwanegol at feini prawf Rheol Sefydlog 26.61, ac ym marn y Llywydd, wedi'u bwriadu dim ond i ddatrys y mater sy'n destun y canlynol:

(i)         y cyfeiriad i gael dyfarniad rhagarweiniol;

(ii)        penderfyniad y Goruchaf Lys; neu

(iii)       y Gorchymyn o dan adran 114 o'r Ddeddf.

Diwygio'r Rheol Sefydlog

Nid oes angen y ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26.55(i) yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE a diddymu adran 113 o'r Ddeddf.

Rheol Sefydlog 26A – Deddfau Preifat y Senedd

 

Ailystyried Biliau Preifat a Basiwyd

Cadw'r pennawd

26A.109

Yn unol ag adran 113 o’r Ddeddf, ar ôl i'r Bil Preifat gael ei basio, caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai'r Senedd ailystyried y Bil Preifat, neu unrhyw ddarpariaeth ynddo:

(i)         os oes cwestiwn ynglŷn â'r Bil Preifat wedi'i gyfeirio at y Goruchaf Lys o dan adran 112 o'r Ddeddf; a

(ii)        os oes cyfeiriad i gael dyfarniad rhagarweiniol (o fewn ystyr adran 113(1)(b) o'r Ddeddf) wedi'i wneud gan y Goruchaf Lys mewn cysylltiad â'r cyfeiriad hwnnw; a

(iii)       os nad yw'r naill gyfeiriad na'r llall wedi'i benderfynu neu wedi'i waredu fel arall.

Dileu'r Rheol Sefydlog

Nid oes angen y Rheol Sefydlog hon yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE a diddymu adran 113 o'r Ddeddf.

26A.109A

Os derbynnir cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.109 gan y Senedd, rhaid i'r Clerc hysbysu'r Cwnsler Cyffredinol a'r Twrnai Cyffredinol am y ffaith honno.

Dileu'r Rheol Sefydlog

Nid oes angen y Rheol Sefydlog hon yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE a diddymu adran 113 o'r Ddeddf.

26A.109B

Os bydd y Senedd yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.109, bydd y Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl tynnu'r cyfeiriad a wnaed mewn perthynas â'r Bil o dan adran 112 yn ôl yn dilyn cais am dynnu'r cyfeiriad yn ôl o dan adran 113(2)b o'r Ddeddf.

Dileu'r Rheol Sefydlog

Nid oes angen y Rheol Sefydlog hon yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE a diddymu adran 113 o'r Ddeddf.

26A.110

Caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai'r Senedd ailystyried y Bil Preifat:

(i)         os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynghylch cyfeiriad a wneir mewn perthynas â’r Bil o dan adran 112 o’r Ddeddf na fyddai'r Bil Preifat neu unrhyw ddarpariaeth ynddo o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd;  

(ii)        os gwneir gorchymyn mewn perthynas â'r Bil Preifat o dan adran 114 o'r Ddeddf; neu

(iii)       os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynghylch cyfeiriad a wneir o dan adran 111B(2)b o'r Ddeddf mewn perthynas â Bil Preifat a basiwyd gan y Senedd, fod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.

Cadw'r Rheol Sefydlog

Mae’r Rheol Sefydlog hon wedi ei chynnwys er gwybodaeth.

26A.111

Os bydd y Senedd yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.110, mae'r Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i’r cynnig hwnnw gael ei dderbyn gan y Senedd.

Cadw'r Rheol Sefydlog

Mae’r Rheol Sefydlog hon wedi ei chynnwys er gwybodaeth.

26A.112

Mae Rheolau Sefydlog 26A.82 i 26A.93 a 26A.100 i 26A.101 yn gymwys i drafodion y Cyfnod Ailystyried.  Dylid dehongli cyfeiriadau at "Ystyriaeth Fanwl y Senedd" ac “Ystyriaeth Fanwl Bellach y Senedd” yn gyfeiriadau at “y Cyfnod Ailystyried” a “y Cyfnod Ailystyried pellach” yn unol â hynny.

Cadw'r Rheol Sefydlog

Mae’r Rheol Sefydlog hon wedi ei chynnwys er gwybodaeth.

26A.113

Ni chaniateir gwneud gwelliannau i Fil Preifat yn y Cyfnod Ailystyried oni bai bod y gwelliannau, yn ychwanegol at feini prawf Rheol Sefydlog 26A.120, ac ym marn y Llywydd, wedi'u bwriadu dim ond i ddatrys y mater sy'n destun y canlynol:

(i)         y cyfeiriad i gael dyfarniad rhagarweiniol;

(ii)        penderfyniad y Goruchaf Lys; neu

(iii)       y Gorchymyn o dan adran 114 o'r Ddeddf.

Diwygio'r Rheol Sefydlog

Nid oes angen y ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26A.113 yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE a diddymu adran 113 o'r Ddeddf.

Rheol Sefydlog 26B – Deddfau Hybrid y Senedd

 

Ailystyried Biliau Hybrid a Basiwyd

Cadw'r pennawd

26B.108

Yn unol ag adran 113 o’r Ddeddf, ar ôl i'r Bil Hybrid gael ei basio, caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai'r Senedd ailystyried y Bil Hybrid, neu unrhyw ddarpariaeth ynddo:

(i)         os oes cwestiwn ynglŷn â'r Bil Hybrid wedi'i gyfeirio at y Goruchaf Lys o dan adran 112 o'r Ddeddf;

(ii)        os oes cyfeiriad i gael dyfarniad rhagarweiniol (o fewn ystyr adran 113(1)(b) o'r Ddeddf) wedi'i wneud gan y Goruchaf Lys mewn cysylltiad â'r cyfeiriad hwnnw; a

(iii)       os nad yw'r naill gyfeiriad na'r llall wedi'i benderfynu neu wedi'i waredu fel arall.

Dileu'r Rheol Sefydlog

Nid oes angen y Rheol Sefydlog hon yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE a diddymu adran 113 o'r Ddeddf.

26B.109

Os derbynnir cynnig o dan Reol Sefydlog 26B.108 gan y Senedd, rhaid i'r Clerc hysbysu'r Cwnsler Cyffredinol a'r Twrnai Cyffredinol am y ffaith honno.

Dileu'r Rheol Sefydlog

Nid oes angen y Rheol Sefydlog hon yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE a diddymu adran 113 o'r Ddeddf.

26B.110

Os bydd y Senedd yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26B.108, bydd y Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl tynnu'r cyfeiriad a wnaed mewn perthynas â'r Bil o dan adran 112 yn ôl yn dilyn cais am dynnu'r cyfeiriad yn ôl o dan adran 113(2)b o'r Ddeddf.

Dileu'r Rheol Sefydlog

Nid oes angen y Rheol Sefydlog hon yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE a diddymu adran 113 o'r Ddeddf.

26B.111

Caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai'r Senedd ailystyried y Bil Hybrid:

(i)         os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynghylch cyfeiriad a wneir mewn perthynas â’r Bil o dan adran 112 o’r Ddeddf na fyddai'r Bil Hybrid neu unrhyw ddarpariaeth ynddo o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd;  

(ii)        os gwneir gorchymyn mewn perthynas â'r Bil Hybrid o dan adran 114 o'r Ddeddf; neu

(iii)       os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynghylch cyfeiriad a wneir o dan adran 111B(2)b o'r Ddeddf mewn perthynas â Bil Hybrid a basiwyd gan y Senedd, bod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.

Cadw'r Rheol Sefydlog

Mae’r Rheol Sefydlog hon wedi ei chynnwys er gwybodaeth.

26B.112

Os bydd y Senedd yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26B.111, mae'r Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i’r cynnig hwnnw gael ei dderbyn gan y Senedd.

Cadw'r Rheol Sefydlog

Mae’r Rheol Sefydlog hon wedi ei chynnwys er gwybodaeth.

26B.113

Rhaid i 15 diwrnod gwaith o leiaf fynd heibio rhwng dechrau'r Cyfnod Ailystyried a dyddiad cyfarfod cyntaf y Senedd sy'n ystyried trafodion y Cyfnod Ailystyried.

 Cadw'r Rheol Sefydlog

Mae’r Rheol Sefydlog hon wedi ei chynnwys er gwybodaeth.

26B.114

Rhaid i'r trafodion yn y Cyfnod Ailystyried gael eu hystyried gan y Senedd mewn cyfarfod llawn.

Cadw'r Rheol Sefydlog

Mae’r Rheol Sefydlog hon wedi ei chynnwys er gwybodaeth.

26B.115

Ni chaniateir gwneud gwelliannau i Fil Hybrid yn y Cyfnod Ailystyried oni bai bod y gwelliannau, yn ychwanegol at feini prawf Rheol Sefydlog 26B.122, ac ym marn y Llywydd, wedi'u bwriadu dim ond i ddatrys y mater sy'n destun y canlynol:

(i)         y cyfeiriad i gael dyfarniad rhagarweiniol;

(ii)        penderfyniad y Goruchaf Lys; neu

(iii)       y Gorchymyn o dan adran 114 o'r Ddeddf.

Diwygio'r Rheol Sefydlog

Nid oes angen y ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 26A.115 yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE a diddymu adran 113 o'r Ddeddf.

Rheol Sefydlog 27 – Is-ddeddfwriaeth (ac eithrio Is-ddeddfwriaeth sy'n Ddarostyngedig i Weithdrefn Arbennig y Senedd)  

 

Memoranda Esboniadol

Cadw'r pennawd

27.1

Rhaid cael Memorandwm Esboniadol i gyd-fynd ag unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft a osodir gerbron y Senedd a rhaid i’r Memorandwm Esboniadol gynnwys unrhyw Asesiad Effaith Reoliadol a baratoir mewn perthynas â’r offeryn.

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

Mae’r Rheol Sefydlog hon wedi ei chynnwys er gwybodaeth.

27.1A

Rhaid i unrhyw Femorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd ag offeryn statudol drafft a osodir gerbron y Senedd y mae paragraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn gymwys iddo gynnwys y datganiad a'r rhesymeg sy'n ofynnol gan baragraff 4(3) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.  

Cadw'r Rheol Sefydlog

Mae’r Rheol Sefydlog hon wedi ei chynnwys er gwybodaeth.

27.1AA

Rhaid i unrhyw Femorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd ag offeryn statudol drafft a osodir gerbron y Senedd y mae paragraff 9 o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 2020 yn gymwys iddo gynnwys y datganiad a'r rhesymeg sy'n ofynnol gan baragraff 9(3) o Atodlen 5 i Ddeddf 2020.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae'r Rheol Sefydlog newydd yn ailadrodd darpariaethau Rheol Sefydlog 27.1A ar gyfer offerynnau statudol drafft y mae paragraff 9 o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 2020 yn gymwys iddynt.

 

Offerynnau Statudol Drafft y mae paragraff 4 o Atodlen 7 i Fil Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) neu baragraff 9 o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 2020 yn gymwys iddynt

Diwygio'r Pennawd

Mae paragraff 9 o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 2020 yn nodi proses  ar gyfer sifftio rheoliadau a wneir o dan adran 31 o'r Ddeddf honno. Felly, mae'r diwygiad arfaethedig yn ymestyn y broses sifftio a nodir yn y Rheolau Sefydlog i gynnwys y rheoliadau hynny.

27.9A

Rhaid i aelod o'r llywodraeth osod unrhyw offeryn statudol drafft y mae paragraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) neu baragraff 9 o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 2020 yn gymwys iddo.

Diwygio'r Rheol Sefydlog

Mae paragraff 9 o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 2020 yn nodi proses newydd ar gyfer sifftio rheoliadau a wneir o dan adran 31 o'r Ddeddf honno. Felly, mae'r diwygiad arfaethedig yn ymestyn y broses sifftio a nodir yn y Rheolau Sefydlog i gynnwys y rheoliadau hynny.

 


 

Rheol Sefydlog 30C – Hysbysu mewn perthynas ag Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 na chânt eu gosod gerbron y Senedd

 

Offerynnau Statudol y mae angen hysbysu'r Senedd yn eu cylch

Cadw'r pennawd

30C.1

Yn Rheol Sefydlog 30C, ystyr "offeryn statudol perthnasol" yw offeryn statudol, neu offeryn statudol drafft, a wnaed, neu sydd i'w gwneud, gan Weinidog y DU sy'n gweithredu ar ei ben ei hun o dan adrannau 8, 9 neu 23 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 neu Atodlen 4 i'r Ddeddf honno, sy'n cynnwys darpariaeth o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru.

Diwygio'r Rheol Sefydlog

Mae Adran 9 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 wedi ei diddymu, ac felly nid oes angen cyfeirio ati.

 

 


Atodiad B – Rheolau Sefydlog 21, 26, 26A, 26B, 27 a 30C, fel y'u diwygiwyd

RHEOL SEFYDLOG 21 – Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Y Pwyllgor neu Bwyllgorau

21.1       Wrth gynnig cylchoedd gorchwyl pwyllgorau o dan Reol Sefydlog 16.2 neu 16.3, rhaid i’r Pwyllgor Busnes sicrhau bod y cyfrifoldeb dros y swyddogaethau a ragnodir yn Rheol Sefydlog 21 yn cael ei aseinio i bwyllgor neu bwyllgorau (y cyfeirir ato neu atynt yn Rheol Sefydlog 21 fel “pwyllgor cyfrifol”).

Swyddogaethau

21.2       Rhaid i bwyllgor cyfrifol ystyried pob offeryn statudol neu offeryn statudol drafft y mae unrhyw ddeddfiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei osod gerbron y Senedd a chyflwyno adroddiad ar a ddylai’r Senedd roi sylw arbennig i'r offeryn neu’r drafft ar unrhyw un o'r seiliau canlynol:

(i)     ei bod yn ymddangos bod amheuaeth a yw intra vires;

(ii)    ei bod yn ymddangos ei fod yn gwneud defnydd anarferol neu annisgwyl ar y pwerau a roddwyd gan y deddfiad y mae wedi’i wneud neu y mae i'w wneud odano;

(iii)   bod y deddfiad sy'n rhoi'r pŵer i’w wneud yn cynnwys darpariaethau penodol sy'n ei eithrio rhag cael ei herio yn y llysoedd;

(iv)   ei bod yn ymddangos bod iddo effaith ôl-weithredol lle nad yw'r deddfiad sy’n ei awdurdodi yn rhoi awdurdod pendant ar gyfer hyn;

(v)    bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol; 

(vi)   ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol; 

(vii)  ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft;

(viii) bod yr offeryn neu’r drafft yn defnyddio iaith ryw-benodol;

(ix)   nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg;

(x)    ei bod yn ymddangos bod oedi na ellir ei gyfiawnhau wedi bod wrth ei gyhoeddi neu wrth ei osod gerbron y Senedd; neu

(xi)   ei bod yn ymddangos bod oedi na ellir ei gyfiawnhau wedi bod wrth anfon hysbysiad o dan adran 4(1) o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946, (fel y’i haddaswyd).

21.3       Caiff pwyllgor cyfrifol ystyried a chyflwyno adroddiad ar a ddylai’r Senedd roi sylw arbennig i unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft y mae unrhyw ddeddfiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei osod gerbron y Senedd ar unrhyw un o’r seiliau canlynol: 

(i)     ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu i unrhyw awdurdod lleol neu gyhoeddus yn gydnabyddiaeth am unrhyw drwydded neu gydsyniad neu am unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath;

(ii)    ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd;

(iii)   ei fod yn amhriodol oherwydd newid yn yr amgylchiadau ers i’r deddfiad y mae wedi’i wneud neu y mae i’w wneud odano gael ei basio neu ei wneud ei hun; neu

(iv)   [Dilëwyd y Rheol Sefydlog drwy benderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth 2021]

(v)    nad yw’n gwireddu ei amcanion polisi yn berffaith.

21.3A      Nid yw Rheolau Sefydlog 21.2 na 21.3 yn gymwys i unrhyw offeryn statudol drafft a osodir gerbron y Senedd y mae paragraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 neu baragraff 9 o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 2020 yn gymwys iddo.

21.3B      Rhaid i bwyllgor cyfrifol gyflwyno adroddiad ar y weithdrefn briodol i'w chymhwyso i unrhyw offeryn statudol drafft a osodir gerbron y Senedd y mae paragraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 neu baragraff 9 o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 2020 yn gymwys iddo.

21.3C    Rhaid i'r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 21.3B gyflwyno adroddiad ar y weithdrefn briodol gan ddefnyddio'r meini prawf a ganlyn:

(i)     a yw'r memorandwm yn ddigon clir a thryloyw ynghylch pam y mae'r llywodraeth o'r farn y dylai'r weithdrefn penderfyniad negyddol fod yn gymwys;

(ii)    a yw'r memorandwm yn ddigon clir a thryloyw ynghylch y newidiadau sy'n cael eu gwneud gan y rheoliadau;

(iii)   a fu ymgynghoriad digonol ar y rheoliadau;

(iv)   a yw'r memorandwm yn ddigon clir a thryloyw ynghylch effaith bosibl y rheoliadau ar gydraddoldeb a hawliau dynol; 

(v)    a yw'r rheoliadau'n codi materion o bwys cyhoeddus, gwleidyddol neu gyfreithiol; a

(vi)   unrhyw fater arall sy’n briodol ym marn y pwyllgor.

[…]

21.8        [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth 2021]

21.9        [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth 2021]

21.10      [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth 2021]

21.11      [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth 2021]


 

RHEOL SEFYDLOG 26 – Deddfau’r Senedd

Ailystyried Biliau a Basiwyd

26.52     [Dilëwyd y Rheol Sefydlog drwy benderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth 2021]

26.52A  [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth 2021]

26.52B  [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth 2021]

26.53     Caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai'r Senedd ailystyried y Bill

(i)     os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynglŷn â chyfeiriad a wnaed mewn perthynas â’r Bil o dan adran 112 o’r Ddeddf na fyddai'r Bil neu unrhyw ddarpariaeth ynddo o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd; 

(ii)    os gwneir gorchymyn mewn perthynas â'r Bil o dan adran 114 o'r Ddeddf; neu

(iii)   os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynglŷn â chyfeiriad a wnaed o dan adran 111B(2)b o'r Ddeddf mewn perthynas â Bil a basiwyd gan y Senedd, fod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.

26.53A  Os bydd y Senedd yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26.53, mae'r Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i'r cynnig hwnnw gael ei dderbyn gan y Senedd.

26.54     Mae Rheolau Sefydlog 26.30 i 26.34 a 26.36 i 26.44 yn gymwys i drafodion y Cyfnod Ailystyried.  Dylid dehongli cyfeiriadau at “Cyfnod 3” a “Cyfnod 3 pellach” yn gyfeiriadau at “y Cyfnod Ailystyried” a “y Cyfnod Ailystyried pellach” yn unol â hynny.

26.55     Ni chaniateir gwneud gwelliannau i Fil yn y Cyfnod Ailystyried oni bai bod y gwelliannau, yn ychwanegol at feini prawf Rheol Sefydlog 26.61, ac ym marn y Llywydd, wedi'u bwriadu dim ond i ddatrys y mater sy'n destun y canlynol:

(iv)   [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth 2021]

(ii)    penderfyniad y Goruchaf Lys; neu

(iii)   y Gorchymyn o dan adran 114 o'r Ddeddf.

 

RHEOL SEFYDLOG 26A – Deddfau Preifat y Senedd

Ailystyried Biliau Preifat a Basiwyd

26A.109 [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth 2021]

26A.109A [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth 2021]

26A.109B [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth 2021]

26A.110 Caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai'r Senedd ailystyried y Bil Preifat:

(i)     os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynghylch cyfeiriad a wneir mewn perthynas â’r Bil o dan adran 112 o’r Ddeddf na fyddai'r Bil Preifat neu unrhyw ddarpariaeth ynddo o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd;  

(ii)    os gwneir gorchymyn mewn perthynas â'r Bil Preifat o dan adran 114 o'r Ddeddf; neu

(iii)   os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynghylch cyfeiriad a wneir o dan adran 111B(2)b o'r Ddeddf mewn perthynas â Bil Preifat a basiwyd gan y Senedd, fod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.  

26A.111  Os bydd y Senedd yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.110, mae'r Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i’r cynnig hwnnw gael ei dderbyn gan y Senedd.

26A.112  Mae Rheolau Sefydlog 26A.82 i 26A.93 a 26A.100 i 26A.101 yn gymwys i drafodion y Cyfnod Ailystyried.  Dylid dehongli cyfeiriadau at "Ystyriaeth Fanwl y Senedd" ac “Ystyriaeth Fanwl Bellach y Senedd” yn gyfeiriadau at “y Cyfnod Ailystyried” a “y Cyfnod Ailystyried pellach” yn unol â hynny.

26A.113  Ni chaniateir gwneud gwelliannau i Fil Preifat yn y Cyfnod Ailystyried oni bai bod y gwelliannau, yn ychwanegol at feini prawf Rheol Sefydlog 26A.120, ac ym marn y Llywydd, wedi'u bwriadu dim ond i ddatrys y mater sy'n destun y canlynol:

(i)     [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth 2021]

(ii)    penderfyniad y Goruchaf Lys; neu

(iii)   y Gorchymyn o dan adran 114 o'r Ddeddf.

RHEOL SEFYDLOG 26B – Deddfau Hybrid y Senedd

Ailystyried Biliau Hybrid a Basiwyd

26B.108 [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth 2021]

26B.109 [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth 2021]

26B.110 [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth 2021]

26B.111  Caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai'r Senedd ailystyried y Bil Hybrid:

(i)     os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynghylch cyfeiriad a wneir mewn perthynas â’r Bil o dan adran 112 o’r Ddeddf na fyddai'r Bil Hybrid neu unrhyw ddarpariaeth ynddo o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd;  

(ii)    os gwneir gorchymyn mewn perthynas â'r Bil Hybrid o dan adran 114 o'r Ddeddf; neu

(iii)   os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynghylch cyfeiriad a wneir o dan adran 111B(2)b o'r Ddeddf mewn perthynas â Bil Hybrid a basiwyd gan y Senedd, bod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.

26B.112  Os bydd y Senedd yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26B.111, mae'r Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i’r cynnig hwnnw gael ei dderbyn gan y Senedd.

Rhaid i 15 diwrnod gwaith o leiaf fynd heibio rhwng dechrau'r Cyfnod Ailystyried a dyddiad cyfarfod cyntaf y Senedd sy'n ystyried trafodion y Cyfnod Ailystyried.

26B.114  Rhaid i'r trafodion yn y Cyfnod Ailystyried gael eu hystyried gan y Senedd mewn cyfarfod llawn.

26B.115 Ni chaniateir gwneud gwelliannau i Fil Hybrid yn y Cyfnod Ailystyried oni bai bod y gwelliannau, yn ychwanegol at feini prawf Rheol Sefydlog 26B.122, ac ym marn y Llywydd, wedi'u bwriadu dim ond i ddatrys y mater sy'n destun y canlynol:

(i)     [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth 2021]

(ii)    penderfyniad y Goruchaf Lys; neu

(iii)   y Gorchymyn o dan adran 114 o'r Ddeddf.

RHEOL SEFYDLOG 27 – Is-ddeddfwriaeth (ac eithrio Is-ddeddfwriaeth sy'n Ddarostyngedig i Weithdrefn Arbennig y Senedd)  

Memoranda Esboniadol

27.1       Rhaid cael Memorandwm Esboniadol i gyd-fynd ag unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft a osodir gerbron y Senedd a rhaid i’r Memorandwm Esboniadol gynnwys unrhyw Asesiad Effaith Reoliadol a baratoir mewn perthynas â’r offeryn.

27.1A      Rhaid i unrhyw Femorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd ag offeryn statudol drafft a osodir gerbron y Senedd y mae paragraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn gymwys iddo gynnwys y datganiad a'r rhesymeg sy'n ofynnol gan baragraff 4(3) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

27.1AA  Rhaid i unrhyw Femorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd ag offeryn statudol drafft a osodir gerbron y Senedd y mae paragraff 9 o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 2020 yn gymwys iddo gynnwys y datganiad a'r rhesymeg sy'n ofynnol gan baragraff 9(3) o Atodlen 5 i Ddeddf 2020.

Offerynnau Statudol Drafft y mae paragraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) neu baragraff 9 o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 2020 yn gymwys iddynt

27.9A     Rhaid i aelod o'r llywodraeth osod unrhyw offeryn statudol drafft y mae paragraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) neu baragraff 9 o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 2020 yn gymwys iddo.

RHEOL SEFYDLOG 30C – Hysbysu mewn perthynas ag Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 na chânt eu gosod gerbron y Senedd

Offerynnau Statudol y mae angen hysbysu'r Senedd yn eu cylch

30C.1      Yn Rheol Sefydlog 30C, ystyr "offeryn statudol perthnasol" yw offeryn statudol, neu offeryn statudol drafft, a wnaed, neu sydd i'w gwneud, gan Weinidog y DU sy'n gweithredu ar ei ben ei hun o dan adrannau 8 neu 23 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 neu Atodlen 4 i'r Ddeddf honno, sy'n cynnwys darpariaeth o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru.